Mae’r band poblogaidd, Gwilym, wedi rhyddhau eu EP newydd.
Rhan Un ydy enw’r EP newydd ac mae rheswm da am hynny gan fod y record fer yn cynrychioli hanner cyntaf eu halbwm nesaf.
Mae’n anodd credu fod albwm cyntaf Gwilym ‘Sugno Gola’, a hoeliodd eu lle fel un o’r artistiaid fwyaf poblogaidd yng Nghymru, wedi’i rhyddhau cymaint â phum mlynedd yn ôl.
Er i Gwilym fod yn gynhyrchiol dros y cyfnod ers hynny, yn rhyddhau senglau gwych fel ‘\Neidia/‘, ‘50au’, a ‘cynbohir’, mae’r band wedi ffeindio’r 3 mlynedd diwethaf yn anodd, rhwng methu mynd i’r stiwdio i gyflawni eu potensial a methu allan i chwarae’r holl gigs roedd y band i fod i serennu ynddyn nhw dros yr hafau â gollwyd.
Mae’r EP yn cynnwys eu sengl ddiweddaraf ‘IB3Y’, a ryddhawyd ddechrau mis Mai, yn ogystal â 5 trac newydd sbon.
Bu aelodau’r band yn sgwrsio gyda gwefan Klust yn ddiweddar am y broses o ysgrifennu’r albwm a sut mae’r dair blynedd diwethaf wedi bod yn heriol.
“Mae’r broses ar gyfer yr ail albwm wedi bod yn dipyn arafach na’r albwm gyntaf” meddal gitarydd Gwilym, Llew Glyn, wrth wefan Klust.
“…dim ond tua blwyddyn a hanner oedd rhwng sefydlu’r band a rhyddhau ‘Sugno Gola’. Mi gychwynnodd y broses [ysgrifennu’r albwm newydd] wythnos cyn y cyfnod clo yn 2020, hefo sesiwn gyntaf y trac ‘teimlo’n well’, felly mae ‘na ambell gân sydd yn reit hen erbyn hyn.”
Bydd Gwilym yn ymddangos mewn nifer o gigs dros yr haf, ac roedd y cyntaf o’r rhain ddydd Sadwrn diwethaf (3 Mehefin) yng Ngŵyl Triban Eisteddfod yr Urdd yn Llanymddyfri. Bydd y band hefyd yn chwarae ar 24 Mehefin yn Galeri, Caernarfon, gyda Dienw ac Eädyth yn cefnogi.
Dyma drac agoriadol yr EP, ’dwi’n cychwyn tân’: