EP ‘Wedi Codi’ Ci Gofod

Mae’r artist ‘indie funk’ o Benybont, Ci Gofod, wedi rhyddhau ei EP newydd sydd allan yn ddigidol, ar CD ac ar record feinyl.  

‘Wedi Codi’ ydy enw’r record fer gan brosiect cerddorol yr aml-offerynwr Jack Thomas Davies.

Daeth Ci Gofod i’r amlwg gyntaf gyda’i sengl ‘Castle Square’ yn 2020, gan ddwyn dylanwad gan fandiau fel Super Furry Animals a Sly and the Family Stone.  

Ei sengl ddiweddaraf, a ddaw o’r EP, ydy ‘Ysbrydoliaeth’ – cân ffynci sy’n toddi melodïau gitâr breuddwydiol dros lais ymlaciol Thomas-Davies. 

Mae Jack yn cyfansoddi ei ganeuon sydd wedi’u dylanwadu arnynt gan gerddoriaeth disgo-ffync y 1980au yn ei stiwdio ystafell wely yng nghymoedd y de. Mae’n barod hefyd i gyflwyno ei gerddoriaeth ar lwyfannau byw gyda’i fand Josh David Read (allweddellau, gitâr, llais), Lloyd Bastian (gitâr, llais), Quillian Thomas (bas) a Josh Cox (Drymiau).

Mae’r EP newydd yn cynnwys pump o draciau yn y Gymraeg sef ‘Wedi Codi’, ‘Wedyn Caru’, ‘Amser’, ‘Ysbrydoliaeth’ ac ‘Yn Well Nawr’.

Dyma deitl-drac yr EP: