Mae’r band roc newydd o’r gogledd, Ffatri Jam, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 10 Chwefror.
‘Geiriau Ffug’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y grŵp newydd sydd wedi creu cryn argraff ers ymddangos gyda’u cynnyrch cyntaf mis Medi diwethaf.
Daw aelodau Ffatri Jam o Arfon a Môn ac maent i gyd yn wynebau cyfarwydd i’r sin gerddoriaeth Gymraeg ar ôl bod yn aelodau o’r bandiau Calfari, Y Galw a Terfysg.
Daethant i’r amlwg ym mis Medi llynedd wrth ryddhau eu sengl gyntaf, ‘Creithiau’ gan lwyddo i ddenu sylw o sawl cyfeiriad.
Ers hynny maent wedi rhyddhau ail sengl, ‘Cyrff’, ac ym mis Tachwedd ac mae ‘Geiriau Ffug’ yn cynnal eu momentwm wrth iddynt baratoi i ryddhau eu EP cyntaf.
Aelodau Ffatri Jam ydy Bryn Hughes Williams (prif lais a gitâr rythm), Sion Emlyn Parry (dryms a llais cefndir) Aled Sion Jones (prif gitâr a Llais cefn) a William Coles (gitâr fas).
“Mae’r gân yn son am fynd i rhyfel efo rhywun ti ddim yn hoff o, hynny’n berson neu gystadleuydd” meddai Bryn Hughes Williams, prif ganwr a gitarydd Ffatri Jam.
“Mae’r geiriau yn disgrifio’r frwydr fel ‘symudiad mewn gêm o chess’, ond dwi hefyd yn dychmygu’r gân fel anthem cyn gêm bêl-droed neu rygbi.”
Mae’n amlwg bod rhyw berthynas rhwng sŵn y band a byd y campau gan fod eu sengl gyntaf, ‘Creithiau’, wedi bod ar restr chwarae y Cae Ras yn Wrecsam, ac wedi bod yn cael ei chwarae’n rheolaidd cyn gemau pan fydd tîm pêl-droed Wrecsam yn chwarae gemau cartref y tymor hwn.
Mae’r band wrthi’n cwblhau’r gwaith o recordio eu EP cyntaf gyda’r bwriad o’i ryddhau ym mis Ebrill eleni.