Mae’r band newydd sydd wedi ei ffurfio gan griw o gerddorion cyfarwydd yn paratoi i ryddhau eu sengl gyntaf.
Ffenest ydy’r band newydd o Eryri sy’n cynnwys talentau’r cerddorion profiadol George Amor (Omaloma, Sen Segur), Ben Ellis (Phalcons, Sen Segur), Alex Morrison (Cate le Bon, H Hawkline) a Guto Evans (Malan, Crinc).
Enw eu sengl newydd ydy ‘Rhywbeth Arall’ a bydd yn cael ei rhyddhau ar label Cae Gwyn ar 15 Rhagfyr.
Mae ‘Rhywbeth Arall’ yn dynodi dechrau eu taith, ac yn flas o’u cerddoriaeth Dream pop wedi’i ysbrydoli gan bawb sydd ynghlwm â’r grŵp.
Bu i Ffenest ymddangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Greenman y llynedd, a’u hail ymddangosiad byw oedd wrth gefnogi Gruff Rhys mewn noson arbennig ym Mhenmachno. Ers hynny mae’r gigs wedi pentyrru.
Bydd ‘Rhywbeth Arall’ ar gael ar y llwyfannau digidol arferol, ac mae modd rhag archebu’r sengl nawr.
Dyma gân o set Ffenest yng ngŵyl Tafwyl eleni:
(Llun: © Siôn Teifi Rees)