Mae prosiect cerddor o Redditch, Swydd Gaerwrangon, sydd wedi dysgu Cymraeg wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf.
‘Olion yr Hen Hualau’ ydy enw’r trac diweddaraf fan Ffos Goch, sef prosiect cerddorol Stuart Estell. Bydd y sengl newydd allan ar 10 Mawrth.
Dechreuodd y prosiect fel rhan o benwythnos i ddathlu Datblygu a ddigwyddodd yn Llanbedr Pont-Steffan, Mehefin 2022. Paratôdd Stuart set fer o ganeuon Datblygu a sylweddoli’n gyflym iawn nad oedd digon o ddeunydd gydag ef ar gyfer y perfformiad. Ei ateb oedd i ddechrau cyfansoddi caneuon eu hun yn y Gymraeg.
Mae dylanwad Dave a Pat, aelodau craidd Datblygu, yn un enfawr ar Ffos Goch, yn ogystal â The Fall (Stuart oedd un o’r rhai a ganodd y gitâr yn ystod y gigs enwog “Granny on Bongos” yn 1998, ac mae hefyd wedi recordio stwff gyda Julia Adamson, cyn-aelod y grŵp), a’r holl sin C86.
Nod y prosiect yw “ailadrodd heb ailadrodd”. Bwriad Ffos Goch ydy bod yn gydweithredol – ac felly rhyddhaodd sengl Nadolig gyda’i hen ffrind Mark Piat mis Rhagfyr diwethaf, sef “Dim Eira, Dim Sioe (Sion Corn yn y Carchar)”.
Mae ‘Olion yr Hen Hualau’ yn ddilyniant i’r sengl Nadolig ac yn ymateb gan y cerddor i ymweliad â Chapel Celyn, sef y gymuned ger Y Bala a foddwyd er mwyn creu cronfa ddwr ar gyfer dinas Lerpwl ym 1965.
“Dydd Llun, y 19 Medi. Dyddiad angladd y Frenhines” eglura Estell.
“Wedi bod ym Mhlas Tan-y-Bwlch am benwythnos, penderfynais dreulio’r diwrnod wrth ymweld â Chapel Celyn cyn troi’n ôl i Loegr. Defnydd addas o’r amser.
“Y tro cyntaf i fi fod yno. Y tro cyntaf i fi weld absenoldeb yr hen gapel. Yr haen o goncrit dros y fynwent. Y geiriau coch ar olion y wal. Olion yr hen hualau.
“Dyma gân am effaith y diwrnod hwnnw, cân am y geiriau coch hynny, o safbwynt ysbryd sydd yn loetran gerllaw.”
Mae Stuart wedi ymwneud ag amrywiaeth eang o brosiectau cerddorol dros y blynyddoedd, yn gynnwys canu gwerin, piano clasurol, a deuawd tiwba doom metal ORE.
Er gwaethaf ei gysylltiadau Cymreig, dim ond yn 2019 y dechreuodd ddysgu’r iaith o ddifri ar ôl bod yn organydd i gapel Gymraeg Loveday St yn Birmingham am 18 blynedd. Mae nawr yn gweithio fel tiwtor Cymraeg i ddysgu Cymraeg Sir Benfro. Mae ei deulu yn dod o Geredigion a Sir Benfro yn wreiddiol.