Mae Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer sengl ddiweddaraf Adwaith.
Rhyddhawyd ‘Addo’ ddiwedd mis Hydref ar label Recordiau Libertino, ac mae’n cynnwys gwestai arbennig iawn ar y gitâr sef James Dean Bradfield o Manic Street Preachers.
Mae’r fideo wedi’i gynhyrchu gan Aled Wyn Jones ac ar gael i’w wylio ar lwyfannau digidol Lŵp nawr.