Mae HMS Morris wedi cyhoeddi fideo newydd ohonynt yn gwneud perfformiad byw o’r gân ‘Datganiadau’.
Yr hyn sy’n unigryw am y fideo ydty ei fod wedi ei berfformio a’i recordio gan Heledd a Sam o’r band yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy ychydig ddyddiau cyn y Nadolig.
Yn ôl y band mae hon yn ‘gân i ddal eich llaw wrth groesawu’r flwyddyn newydd’ ac maent yn annog pawb i gredu bod unrhyw beth yn bosib eleni wrth i ni ddechrau blwyddyn newydd.