Mae gwasanaeth Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer y sengl a ryddhawyd ar y cyd yn ddiweddar gan Yws Gwynedd ac Alys Williams.
Rhyddhawyd y sengl yn wreiddiol nôl ym mis Mawrth eleni, ac er bod Yws ac Alys yn ffrindiau mawr ers oesoedd, dyma’r tro cyntaf iddynt ryddhau cân ar y cyd.
Mae’r fideo ar gyfer y trac wedi’i gyfarwyddo gan Yws Gwynedd ei hyn, ynghyd â Dafydd Owen.