Fideo epig Ffatri Jam

Mae fideo trawiadol wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer cân y band roc Ffatri Jam a. 

Lŵp, S4C, sy’n gyfrifol am y fideo newydd ar gyfer y sengl ‘Geiriau Ffug’ a ryddhawyd ym mis Chwefror eleni. Ond nid fideo cerddoriaeth arferol ydy hwn yn ôl Lŵp, ond yn hytrach ‘ffilm fer’ i fynd gyda’r trac a gafodd ei gydnabod ymhlith ‘Seiniau Gorau 2022’ gan BBC Introducing. 

Yn ogystal â chyflwyno synau roc newydd i gynulleidfa Gymraeg, mae gweledigaeth greadigol y band yn amlwg yn ymestyn i’r ochr weledol o gerddoriaeth hefyd. Mae’r band wedi cydweithio gyda’r cynhyrchwyr Andy Pritchard ac Aled Wyn Jones o gwmni  Darlun ar y fideo. 

Ffilm cyfnod ydy’r fideo, a hwnnw’n perthyn i fyd trahaus y Rhyfel Byd Cyntaf – testun annisgwyl ar gyfer fideo cerddorol efallai, yn enwedig o gael merch fel prif gymeriad canolog i’r cyfan. 

Mae’r dewis o leoliad ffilmio hefyd yn un diddorol, sef ffos a adeiladwyd 10 mlynedd yn ôl sy’n seiliedig ar un o’r rhai a ddefnyddiwyd yn ystod y Rhyfel Mawr lle byddai cymaint  Gymry Cymraeg wedi colli eu bywydau. 

Fideo cymharol rad ydy hwn yn ôl y cynhyrchwyr, ac mae’r ffaith eu bod wedi llwyddo i gael y cyfan i ymddangos fel pe bai’r raddfa’n eang yn dipyn o gamp. Mae’r cyfan wedi’i ffilmio’n lleol hefyd. 

Mae’r fideo’n cynnig portread teimladwy o stori sy’n bwydo ar themâu gwreiddiol – euogrwydd, perthynas ac amser, iechyd meddwl, pryder a phŵer y meddwl. 

Gwelwn ferch yn dychwelyd adref yn sgil marwolaeth ein nain gyda’r euogrwydd hwnnw’n treiddio i’r amlwg wrth iddi gasglu bocsys. Mae hyn yn ei dro yn troi’n obsesiwn ynghylch hanes ei theulu, a’r awch i wybod mwy. Yna, mae’r prif gymeriad yn sefyll yng nghanol maes y gad sydd bellach yn wag, sy’n gweithio’n gelfydd fel portread o ddoe a heddiw, a’r berthynas rhwng y naill a’r llall, yn ogystal â gweithio fel trosiad celfydd o frwydr fewnol y prif gymeriad. 

Mae’r fideo ar gael i’w wylio ar lwyfannau Lŵp nawr.