Fideo Francis Rees – ‘PELL’

Ym mis Hydref eleni, cyhoeddwyd bod cronfa fideos cerddorol Lŵp S4C a PYST yn dyblu mewn cyllideb er mwyn gallu ariannu ugain fideo newydd dros y flwyddyn nesaf. 

Wythnos diwethaf cyhoeddwyd y fideo cyntaf o ail rownd y gronfa, sef ‘PELL’ gan Francis Rees. Mae’r fideo newydd wedi’i gyfarwyddo gan y cyfarwyddwr ifanc Hedydd Ioan.   

Lansiwyd y gronfa yn wreiddiol y llynedd fel ffordd o roi cyfle i artistiaid a chyfarwyddwyr newydd greu eu fideo cyntaf i hyrwyddo traciau newydd. 

Dros y flwyddyn nesaf, bydd y gronfa’n cefnogi cynhyrchu ugain fideo annibynnol newydd, gyda’r nod o weithio gyda cherddorion a chyfarwyddwyr na fyddai’n cael cyfle fel arall i greu fideos Cymraeg. Mae’r gronfa yn bartneriaeth rhwng corff dosbarthu a hyrwyddo cerddoriaeth PYST a phlatfform cerddoriaeth gyfoes Lŵp, S4C.

“Dangosodd llwyddiant y flwyddyn gyntaf bod gwir angen am gyfleoedd ariannu ar gyfer fideos annibynnol” meddai Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST.  

“Mae hyn yn enwedig o wir ar gyfer y cerddorion a’r cyfarwyddwyr hynny na fyddai o bosib yn cael y cyfle, ac yn sicr fyddai’n methu gwireddu eu gweledigaeth heb gymorth. 

“Mae amrywiaeth yr artistiaid a chyfarwyddwyr yn y rownd gyntaf yn tanlinellu’r awydd sydd yn bodoli i ymgysylltu â chreu drwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi yn edrych ymlaen yn fawr i weld y gronfa yn parhau i dyfu flwyddyn nesaf.”

Wedi’i ryddhau ar label Pendrwm ddydd Gwener 8 Rhagfyr, mae ‘PELL’ gan Francis Rees yn dilyn cyfres o senglau gan gynnwys ‘Ferchfechtan Bach’ a ‘Mwynhewch’ yn ogystal â’i halbwm gyntaf ‘Gwlad y Fiesta Glas’ (2022). 

“Roedd derbyn cefnogaeth gan Lŵp a PYST i wneud y fideo yn hollol wych” meddai Francis.

“Mae cael fideo i gyd-fynd â thrac mor bwysig heddiw ac oedd cael y cyfle i ddod a’n syniadau gweledol yn fyw yn wych.” 

Dyma’r fideo: