Fideo newydd Kim Hon ydy’r diweddaraf i ymddangos ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C.
Fideo ar gyfer y trac ‘Interstellar Helen Keller’ ydy hwn – sengl o’u halbwm cyntaf fydd allan erbyn yr haf.
Daw’r sengl, a’r albwm yn ei dro, yn dilyn llwyddiant yr EP ‘Stoppen Met Rocken’ a ryddhawyd yn Awst 2021.
Mae’r sengl yn ffrwyth llafur ymgais gyntaf KIM HON o recordio mewn stiwdio broffesiynol, gan weithio gyda’r cynhyrchydd Llŷr Pari.
Yn y fideo gwelwn Kim Hon yn ymdrin â dulliau amrywiol o golli cof, boed hynny’n yfed Speci Brŵ, neu’n gwneud defnydd o ba aflwydd bynnag sydd wrth law.
Yn serennu yn y fideo mae Iwan ‘Topper’ Evans, ac mae hynny’n anrhydedd yn ôl y prif leisydd Kim Hon, Iwan Fôn, gan fod Topper yn un o ddylanwadau pennaf y band.
“Ffordd bach KIM HON i dalu teyrnged i Dyfrig Evans, prif leisydd Topper” meddai Iwan. Aled Wyn Jones ac Elis Derbyshire sydd wedi cyfarwyddo a chynhyrchu’r fideo.