Fideo newydd Mellt

Mae fideo cerddoriaeth newydd ar gyfer sengl ddiweddaraf Mellt wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau Lŵp, S4C.

‘Diwrnod Arall’ ydy enw’r trac newydd gan y triawd a ddaw’n wreiddiol o Aberystwyth a ryddhawyd ar 12 Gorffennaf.

Yn ôl Lŵp doedd dim angen chwilio gormod am syniad cychwynnol ar gyfer y fideo wrth i’r band gymryd yr awenau eu hunain, hawlio’u hawen greadigol yn ôl a gadael i’r gerddoriaeth siarad drosti hi ei hun. 

Mae’r fideo wedi’i gyfarwydd gan Griff Lynch, ac wedi ei gynhyrchu gan Aled Wyn Jones. Mae hefyd yn cynnwys Hedydd Ioan fel actor.