Fideo newydd Rogue Jones

Mae Rogue Jones wedi cyhoeddi fideo ar gyfer eu sengl newydd ‘1,2,3’. Crëwyd y fideo gan ddau aelod craidd Rogue Jones, Ynyr a Bethan Mai Morgan Ifan.

Ffilmiwyd y fideo yn Pantri Lolfa Pen-bre. Rhyddhawyd ‘1,2,3’ ar 7 Chwefror fel un hanner o sengl ddwbl ar y cyd â’r trac ‘Fflachlwch Bach’.

Mae’r grŵp yn paratoi i ryddhau eu halbwm newydd, ‘Dos Bebés’, ar 3 Mawrth.