Mae’r rapiwyr dwy-ieithog a ffrwydrodd i amlygrwydd llynedd, Sage Todz, wedi cyhoeddi fideo newydd arlein.
Fideo swyddogol ar gyfer y trac ‘WE UP!’ ydy hwn ac mae wedi’i ffilmio, cyfarwyddo a golygu gan Kieron Shand gyda chymorth Lowri Page ar y camera.
Daeth Sage Todz i sylw eang llynedd wrth ryddhau rhan o’i drac arddull Drill Cymraeg, ‘Rownd a Rownd’, ar y cyfryngau cymdeithasol.
]Ers hynny mae hefyd wedi cyd-weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ryddhau’r trac Cymraeg ‘Yma o Hyd’ i gefnogi’r tîm cenedlaethol.