Fideo newydd The Trials of Cato

Fideo ar gyfer sengl ddiweddaraf y grŵp gwerin, The Trials of Cato, ydy’r diweddaraf i’w gyhoeddi fel rhan o gynllun Cronfa Fideos Cerddorol Lŵp x PYST.

Y sengl ‘Aberdaron’, sydd ar albwm diweddaraf y band, sydd dan sylw a Matt Coles sydd wedi cyfarwyddo’r fideo. 

Rhyddhawyd ail albwm y band, Gog Magog, ym mis Tachwedd 2022 ac mae’r trac ‘Aberdaron’ yn ymddangos ar hwnnw. 

“Cyfansoddwyd yr alaw tra bod y band dal yn byw ac yn gweithio ym Meirut”, meddai Tomos o’r band am y trac. 

 “Mae trefniad y gân wedi datblygu cryn dipyn ers y dyddiau cynnar hynny, gydag elfennau newydd wedi cael eu cyflwyno wrth i ni berfformio’r gân yn fyw dros y pum mlynedd diwethaf. 

“Mae ‘Aberdaron’ wastad yn ymddangos fel ffefryn yn ein perfformiadau byw, nid dim ond yng Nghymru ond hefyd yn Lloegr, yr Alban, Canada ac America. Nawr, chwe mlynedd ar ôl i’r gan gael ei chyfansoddi yn wreiddiol, mae hi’n ymddangos ar ei newydd wedd ar ein halbwm newydd ‘Gog Magog’”. 

Heddwch a hudoliaeth

Ffilmiwyd y fideo gan Matt Coles yn Eglwys Sant Hywyn, Aberdaron ac mae’n cynnwys Robin Jones o’r band ar y prif leisiau. 

“Mae cerdd enwog Albert Evans-Jones ynglŷn ag Aberdaron wedi bod yn ffefryn ers i mi fod yn blentyn” eglura Robin.  

“Mae llif a threigliad y geiriau yn y penillion hyfryd yma wastad wedi fy atgoffa o’r harddwch, heddwch a’r hudoliaeth sydd yn denu miloedd i ymweld ag ardaloedd swynol Pen Llyn pob blwyddyn. Roedd yn fraint i ni gael ffilmio’r trac yn y lleoliad ysbrydoledig yma”.

Deall ystyr ‘hiraeth’

Mae’r band yn canu yn Gymraeg yn Saesneg ac mae’r aelod diweddaraf, Polly, wedi bod yn brysur yn dysgu mwy o Gymraeg ers ymuno. 

Since I joined the band the boys have been helping me to learn more and more of this beautiful language” meddai Polly. 

“It was an honour to sing harmony on this track and although some of the finer poetic nuances were lost on me, I felt that the obvious musicality of the words transcended the language barrier and gave me a real sense of the magic that this poem is meant to convey. 

“I have to say I didn’t really get the concept of ‘hiraeth’ before now, but the experience of recording this track and filming it in Aberdaron gave me a much better understanding of what it means.”

Dangoswyd y fideo gyntaf ar wefan Folk Radio UK ond mae bellach ar gael i’w wylio yn y mannau arferol eraill gan gynnwys sianel YouTube The Trials of Cato. 

Mae The Trials of Cato ar fin dechrau ar gyfres o gigs yn ystod mis Chwefror fydd yn mynd â hwy i leoliadau yn Y Ffindir a Gwlad Belg ymysg llefydd eraill – mae manylion llawn y dyddiadau hyn ar ei gwefan.