Fideo ‘Pwy Sy’n Crio Nawr?’ Bendigaydfran

Mae Lŵp, S4C wedi cyhoeddi fideo newydd ar gyfer sengl gyntaf yr artist ewro-pop, Bendigaydfran.

Bendigaydfran ydy Lewis Owen sy’n byw yng Nghaerdydd.

Daeth i amlygrwydd gyntaf fel artist cerddorol diolch i’r prosiect pop Cymraeg, Popeth, sy’n cael ei arwain gan Ynyr Roberts.

Roedd Bendigaydfran yn westai i Popeth ar y trac ‘Blas y Diafol’ a ryddhawyd yn Hydref 2022, a bu iddo ddilyn hynny gyda’i sengl unigol gyntaf, ‘Pwy Sy’n Crio Nawr?’ a ryddhawyd ym mis Mehefin eleni.

Mae’r fideo newydd ar gyfer y sengl i’w weld ar lwyfannau digidol Lŵp nawr.