Mae fideo ar gyfer sengl ddiweddaraf Dienw wedi’i gyhoeddi ar lwyfannau digidol Lŵp, S4C.
‘Ffydd’ ydy enw sengl nesaf y ddeuawd o Lanrug a ffurfiodd yn ôl yn 2019. A
elodau Dienw ydy Twm Herd ac Osian Land ac maent wedi bod yn gweithio’n brysur ar ddeunydd newydd ac yn gigio’n gyson ar hyd a lled Cymru.
Dyma ail fideo cerddorol y band gyda’r gyntaf ar gyfer y gân ‘Targed’ ym mis Ebrill 2022. Yn y fideo yma cawn ddilyn stori ddifyr y cymeriad ‘Dienw’ dan gyfeiliant y gân.