Mae fideo wedi gyhoeddi ar gyfer sengl ddiweddaraf Mali Hâf, ‘SHWSH!’.
Mae’r fideo wedi’i gynhyrchu gan gwmni Pink Chillies, sef casgliad newydd o unigolion llawrydd o’r diwydiannau creadigol sydd yn ferched neu rhyweddau ffiniol (marginalised genders).
Rhyddhawyd y sengl newydd gan Mali wythnos diwethaf a dyma’r sengl gyntaf yn arwain at EP fydd yn cael ei ryddhau yn yr Hydref.