Mae fideo newydd wedi’i gyhoeddi ar gyfer y trac ‘Dŵr i’r Blodau’ gan y band Achlysurol.
Daw ‘Dŵr i’r Blodau’ o albwm cyntaf Achlysurol, ‘Rhywle Pell’, a ryddhawyd ym mis Mai eleni.
Dyma’r fideo diweddaraf i’w greu fel rhan o brosiect Cronfa Fideos Lŵp a PYST ac mae wedi’i gyfarwyddo gan Anna Bobryska ac Aled Emyr, sydd wrth gwrs yn un o aelodau Achlysurol. Mae modd gwylio’r fideo ar wefan AM nawr.