Mae Fleur De Lys wedi rhyddhau eu sengl newydd gan hefyd gyhoeddi newyddion pellach am eu halbwm nesaf.
‘Hwyl Ti, Gymru’ ydy enw’r trac diweddaraf i’w rhyddhau gan y band poblogaidd o Fôn sydd allan ar label Recordiau Côsh.
Mae’r band wedi bod yn gweithio’n galed yn recordio’n ddiweddar, yn cael eu cynhyrchu gan eu drymiwr, Siôn Roberts, wrth iddynt ryddhau’r sengl newydd maent hefyd wedi datgelu’r newyddion ynglŷn â beth yn union sydd wedi bod ar y gweill ganddynt yn Stiwdio Graig Las.
Y newyddion hwnnw oedd eu bod wedi bod yn recordio albwm newydd fydd yn cael ei ryddhau ar 28 Ebrill dan yr enw ‘Fory ar ôl Heddiw’.
Mae’r albwm yn rhannu enw un o senglau diweddar y band a ryddhawyd ym mis Gorffennaf 2022. Dilynwyd honno gan flas pellach o’r albwm newydd ar ffurf y sengl ‘Ffawd a Ffydd’ ym mis Medi llynedd a’r sengl Nadolig ‘Bwrw Eira’ ym mis Rhagfyr.
Bydd y newyddion am yr albwm yn siŵr o blesio llawer gyda Fleur de Lys wedi hoelio eu lle fel un o fandiau mwyaf poblogaidd yr iaith Gymraeg dros y blynyddoedd diwethaf.
Er bod Fleur de Lys wedi bod yn rhyddhau cerddoriaeth ers 8 mlynedd bellach, ni ddaeth eu halbwm cyntaf nes ‘O Mi Awn Ni Am Dro’ yn 2019.
Yn ôl y band mae 2023 yn teimlo fel y bydd yn mynd i fod yn haf arbennig iddynt ac mae nifer o gigs cyffrous i’w cyhoeddi’n fuan. Mae cwpl o’r rhain eisoes wedi’i cyhoeddi sef un yn y Bull, Llangefni ar 5 Mai, ac un arall yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 17 Mehefin.