Mae cynllun datblygu cerddorion Forté wedi datgelu enwau’r artistiaid fydd yn ran o’r cynllun yn 2023.
Mae’r cynllun yn mynd ers 2015 ac â’r nod o ddatblygu talent a dathlu crewyr cerddoriaeth ifanc yng Nghymru.
Maent yn dewis deg artist cerddorol ifanc i’w cefnogi bob blwyddyn, ac un o’r deg eleni ydy’r gantores Gymraeg o ardal Tywyn, Gwynedd, Francis Rees.
Mae Francis Rees wedi cael ei hysbrydoli i greu cerddoriaeth gan brosiect Merched yn Gwneud Miwsig, a daeth i amlygrwydd yn 2022 wrth iddi gyrraedd rownd derfynol Brwydr y Bandiau Maes B yn Eisteddfod Tregaron.
Mewn darn arbennig diweddar ar wefan Y Selar, bu i Gruffudd ab Owain gynnwys Rees ar ei restr o gerddorion newydd i gadw golwg arnynt yn 2023.
Mae’r artistiaid Cymraeg a fu ar brosiect Forté yn y gorffennol yn cynnwys Lewys, Mari Mathias, Elis Derby, Mali Hâf, Eädyth a Chroma.