Mae’r cynhyrchydd toreithiog FRMAND wedi rhyddhau ei ailgymysgiad diweddaraf, gan gyd-weithio y tro hwn gyda’r gantores Parisa Fouladi.
Y trac ‘Cysgod Yn Y Golau’ gan Parisa ydy’r diweddaraf i gael y driniaeth arbennig gan FRMAND.
Mae’r bartneriaeth ddiweddaraf yn ddilyniant i’w ailgymysgiad diwethaf, ‘Colli Ar Fy Hun’ gan Dafydd Hedd, a ryddhawyd ym mis Mai eleni.
Y tro hwn mae wedi mynd i’r afael a thrac gan y gantores Gymreig-Iranaidd o Gaerdydd, Parisa Fouladi, sydd hefyd yn aelod o’r band Derw. Mae’r ailgymysgiad yn gosod llais anhygoel Parisa o fewn trac hylifol drum & bass, gan ddatblygu’r sin electroneg Gymraeg ymhellach yn ôl y cynhyrchydd.
Mae’r ailgymysgiad allan ar label y cynhyrchydd, Recordiau BICA, ers dydd Gwener 14 Gorffennaf.