FRMAND yn rhannu ‘Cyfrinach’ gyda Jardinio a Gwcci

Mae’r cynhyrchydd electronig o Langrannog, FRMAND, yn paratoi i ryddhau ei sengl nesaf ar ddydd Gwener 3 Mawrth. 

‘Cyfrinach’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y gŵr sydd hefyd yn gyfrifol am label Recordiau Bica. 

Gyda’r sengl newydd mae FRMAND yn troi at gydweithio gyda dau o artistiaid eraill y label sef Jardinio a Gwcci. 

Nid dyma’r tro cyntaf i  FRMAND bartneriaethu gyda’r cynhyrchydd Jardinio – mae’r ddau wedi rhyddhau’r senglau ‘Gwahaniaeth’, ‘Dau Gi’ a ‘Popty Ping’ ar cyd yn y gorffennol. 

Mae’r ddeuawd hip-hop Gwcci wedi cael dechrau bywiog i’r flwyddyn ar ôl rhyddhau eu sengl ddiweddaraf, ‘Canna’, ddechrau mis Chwefror. 

Mae ‘Cyfrinach’ yn drac drwm a bas a gobaith FRMAND ydy bydd y sengl newydd yn dod â  cherddoriaeth Gymraeg i flaen y gad yn y genre drwm a bas.

Perfformiwyd y trac yn fyw am y tro cyntaf yn nigwyddiad ‘Dydd Miswisg Cymru’ yng Nghlwb Ifor Bach, lle cafodd y dorf gyfle i brofi’r cyfuniad cyffrous o eiriau Cymraeg a churiadau Drwm a bas modern.