Galwad olaf am artistiaid record feinyl Selar2

Mae Y Selar yn paratoi i ryddhau ail record yn ein casgliad o recordiau feinyl aml-gyfrannog i aelodau Clwb Selar.

Glaniodd record Selar1 ar ddechrau’r flwyddyn, ac sydd ar gael yn ecsgliwsif i aelodau Clwb Selar yn y lle cyntaf. Nifer cyfyngedig o gopïau o’r record sydd, ac mae ambell un ar gael i’w prynu nawr ac yn y man mewn lleoliadau arbennig!

Mae Selar1 yn cynnwys caneuon gan Sŵnami, Papur Wal, Tacsidermi, Kathod, Gwilym, Shamoniks ac Eädyth, Sister Wives, Y Dail, magi. a skylrk., gyda gwaith celf unigryw wedi’i greu gan yr artist Lucy Jenkins.

Nawr, mae cyfle i artistiaid gynnig eu henwau a thraciau i gael eu cynnwys ar yr ail record yn y gyfres. Mae nifer o artistiaid eisoes wedi gwneud hynny, ac mae cyfle olaf i chi daflu’ch enw i’r het erbyn 30 Awst. Gallwch wneud hynny trwy ebostio  yselar@live.co.uk

“Syniad y record ydy efelychu rhai o recordiau Cymraeg aml-gyfrannog y gorffennol” meddai Uwch Olygydd Y Selar, Owain Schiavone.

“Mae traddodiad hir o ryddhau recordiau o’r fath yn y Gymraeg, a digwydd bod mae erthygl yn trafod hyn yn rhifyn diweddaraf cylchgrawn Y Selar [tud. 22]

“Teg dweud bod y rhan helaeth o gerddoriaeth yn cael ei ryddhau’n ddigidol erbyn hyn, ond rydan ni’n awyddus i greu darnau o gelf unigryw i bobl roi ar eu silff a’u trysori. Yn ein barn ni hefyd, mae’n drueni bod llawer o ganeuon gwych ddim yn cael cyfle i ymddangos ar ffurf caled record feinyl neu hyd yn oed CD. Felly y syniad ydy’n bod ni’n rhoi cyfle i ganeuon fyddai ddim yn ymddangos ar record fel arall, i gael eu cynnwys ar record feinyl hyfryd.

“Felly’n hynny o beth, rydan ni am glywed gan artistiaid sydd â chaneuon da, ond sydd a dim bwriad i’w rhyddhau ar unrhyw fformat heblaw’r llwyfannau digidol arferol.”

10 o draciau fydd yn ymddangos ar y record a gyda chymaint o ddiddordeb yn y cyfle, mae’n debygol y bydd aelodau Clwb Selar yn cael dweud ei dweud ynglŷn â pha ganeuon ddylai gael eu cynnwys.

Yn y cyfamser, os ydach chi’n artist neu band sy’n awyddus i gael eich ystyried yna cysylltwch nawr – yselar@live.co.uk