Geraint Rhys yn rhyddhau ‘Montana’

‘Montana’ ydy enw sengl newydd Geraint Rhys sydd wedi’i hysbrydoli a’i hysgrifennu yn ystod ei gyfnod yng Ngogledd America.

Mae’r gân yn adlewyrchu ar ddirywiad mewn perthynas tra bod ar diriogaeth anarferol a dieithr.

Mae Geraint yn gyfarwydd am ei awydd i archwilio genres cerddorol ac mae hynny’n parhau ar y sengl newydd wrth iddo gyfuno ei lais unigryw gyda synau anghyfarwydd er mwyn adlewyrchu’r amgylchedd anarferol yr oedd ynddo wrth ysgrifennu’r trac.

“Ysgrifennais y trac hwn tra oni’n byw yng nghoedwigoedd Gogledd America, oedd wedi’i hamgylchynu gan goed tal, pryfed ac eirth” meddai Geraint. 

“Ac felly, mae’r cyfeiriad cerddorol yn cael ei arwain gan y lle hwnnw a sut, wrth fyfyrio ar wahaniad, y gallai hynny fod yn brofiad dryslyd. Roeddwn i eisiau i’r trac deimlo a swnio fel y teimlad o rwygo plastr i ffwrdd, yn boenus ond yn foddhaol ar yr un pryd.”