Mae Clwb Ifor Bach, Caerdydd wedi cyhoeddi lein-yp gig mawreddog fydd yn digwydd yno fel rhan o weithgarwch Dydd Miwsig Cymru eleni.
10 Chwefror ydy dyddiad Dydd Miwsig Cymru y tro yma, a bydd digwyddiadau cerddorol yn cael eu cynnal ledled y wlad mae’n siŵr.
Go brin bydd llawer ohonynt mor fawr â hwnnw yng Nghlwb Ifor Bach sydd â llwyth o artistiaid yn perfformio.
Mae enwau naw o berfformwyr wedi eu cyhoeddi i gyd sef Tara Bandito, Lloyd a Dom James, Hyll, Gwcci, Mali Hâf, Hana Lili, Parisa Fouladi, Y Dail a Ci Gofod. Cynhelir y gig rhwng 16:00 a 22:00 ac mae’r mynediad am ddim!
Prif Lun: Parisa Fouladi fydd ymysg y perfformwyr yn y gig.