Bydd cwmni hyrwyddo newydd ‘Gigs Cefn Car’ yn cynnal gig yn y Galeri, Caernarfon ar nos Sadwrn 18 Mawrth.
Y cerddor ifanc o Fethesda, Dafydd Hedd, sy’n gyfrifol am y prosiect sy’n gweithio gyda Beacons Cymru, sef sefydliad sy’n anelu at feithrin y genhedlaeth nesaf o bobl ifanc sydd am weithio yn y diwydiant cerddoriaeth.
Ariennir Gigs Cefn Car gan Ddydd Miwsig Cymru, a’r nod ydy i geisio cynnal mwy o gigs Cymraeg ymhob rhan o’r wlad. Dyma fydd y pumed gig i’w gynnal dan frand Gigs Cefn Car.
Yn agor y noson yn y Galeri bydd Parisa Fouladi, y gantores sydd wedi’i dylanwadu arni gan soul a hip-hop minimalaidd.
Yna bydd y DJ, cynhyrchydd, a pherchennog label, Endaf, sydd wrth gwrs yn gyfarwydd iawn i gynulleidfaoedd yn ardal Caernarfon. Daw’r gig yn dilyn ei sioe yn Porters, Caerdydd lle yn hytrach na set DJ, bu’n gwahodd artistiaid gwadd chyd-greu set ddawns electronig fyw ddeniadol o flaen eich llygaid.
Yn cloi’r noson eclectig fydd y seren cerddoriaeth dril newydd Sage Todz. Fel Endaf, mae’n lleol ac yn dod o Benygroes. Fel mae’n digwydd, roedd yn arfer gweithio yn Galeri, a bydd cyfle i glywed ei ganeuon cyfarwydd fel ‘Rownd a Rownd’, ‘WE UP’ ac ‘O HYD’ ar y llwyfan.
Mae tocynnau ar gael i’w prynu nawr am £10 ar-lein ac ar gael ar wefan Galeri.