Mae’r gantores o Sir Gaerfyrddin, Gillie, wedi rhyddhau ei hail sengl sydd allan ar Recordiau Libertino .
‘Llawn’ ydy enw’r trac newydd ganddi sy’n ddilyniant i’r sengl ‘i ti’ – cân a gyhoeddodd ddechreuad newydd a phennod greadigol newydd i Gillie.
Wedi’i chynhyrchu a’i recordio ei hun, roedd Gillie eisiau “cyfleu rhywbeth oedd yn teimlo’n ansicr yn rhythmig, yn rhydd yn gerddorol, gyda fflachiadau bach o densiwn drwyddi draw.”
“Mae ‘Llawn’ yn canolbwyntio ar y teimlad rhyfedd hwnnw o golli rheolaeth dros benderfyniadau yn eich bywyd eich hunain oherwydd ffactorau na ellir eu rheoli, a dod o hyd i le diogel i chi’ch hun ar sail hynny” meddai Gillie.
“Mae’r syniad fod gan rywun bŵer drosoch chi tra rydych mewn cyflwr bregus yn ddiddorol i mi, a phan oeddwn i’n ysgrifennu’r gân hon, roedd gen i’r ddelwedd yn fy mhen fod rhywun yn fy mwydo i’r ‘newidiadau’ hyn – dyna beth mae geiriau agoriadol y gân yn cyfeirio ati.
“Ma’i hefyd am geisio bod yn fodlon yn y presennol a dathlu gwahaniaethau ein hunain.”
Yn plethu’r gitâr euraidd gyda’r rhythmau di-baid, mae Gillie yn cyfleu’r pryderon, straen a’r brwydrau cyson a daw mewn bywyd bob dydd, ac yn eu gweu’n rhywbeth cynnes ac agos-atat ti.
Mae ‘Llawn’ ar gael ar y llwyfannau digidol nawr.