Mae’r gantores gyffrous o Sir Gâr, Gillie, wedi rhyddhau ei sengl ddiweddaraf ers dydd Iau diwethaf, 19 Hydref.
‘Toddi’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Libertino.
Yn ôl y label, mae ‘Toddi’ yn drac tyner y gallwch ymgolli ynddi ar ddiwedd yr haf.
Mae ‘Toddi’ yn dawnsio golau ar ddŵr clir, yn gwahodd y gwrandäwr i blymio i mewn, mae’n gweld Gillie ar ei hapusa’, agored ei chalon a thawelwch.
Ar ôl treulio cyfnod yn Llundain, dychwelodd Gillie i Gymru gan ryddhau ei sengl gyntaf yn y Gymraeg fis Tachwedd diwethaf, sef ‘i ti’.
Ers hynny mae wedi rhyddhau’r trac ‘Llawn’ fel sengl yn gynharach yn y flwyddyn, gan hefyd ymuno gydag Adwaith fel aelod o’r band ar lwyfan dros yr haf eleni.
“Mae Toddi wedi ei ysgrifennu am y newid tymhorau, a’r newid meddylfryd a ddaw gyda hynny” meddai Gillie am y trac.
“Pan ysgrifennais hyn dychmygais fy hun yn ildio rheolaeth; roedd y newid golau yn adlewyrchu yn fy meddwl, yn toddi i’m hamgylchoedd, ac yn cloi i gyflymdra tymor newydd.
“Mae’n gân syml am agor i fyny, llenwi fy nghalon, a sefydlu fy hyn am newid” ychwanega’r artist.