Glain Rhys yn rhyddhau ‘Hed Wylan Deg’

Mae Glain Rhys wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar label I KA CHING ers dydd Gwener diwethaf, 24 Mawrth. 

‘Hed Wylan Deg’ ydy enw’r trac diweddaraf gan y ferch o ardal Y Bala, a dyma’i phumed sengl ers ymuno â label I KA CHING. 

Cafodd y trac ei chwarae am y tro cyntaf fel rhan o eitem ‘Tracboeth’ ar raglen BBC Radio Cymru Mirain Iwerydd wythnos diwethaf. 

Mae’n sengl ddiweddaraf yn ddilyniant i gyfres o senglau gan Glain dros y deunaw mis diwethaf sy’n rhoi blas o’i thrywydd cerddorol newydd dirdynnolPlu’r Gweunydd’, ‘Swedish Tradition’, ‘Sara’ ac ‘Eira Flwyddyn Nesa’. 

Symud i gyfeiriad mwy electronig

Mae ‘Hed Wylan Deg’, ei phumed sengl oddi ar ei halbwm hir-ddisgwyliedig, hefyd yn mynd a ni ar yr un trywydd hiraethus ac yn plethu alaw werinol ei naws gyda chyfeiliant mwy electronig.

“Mi sgwennes i’r gân yn ystod y cyfnod clô,” eglura Glain. 

“Ro’n i’n gweithio yng Ngroeg cyn Covid, yn perfformio yn y sioe gerdd Phantom of the Opera, ond wrth gwrs, bu’n rhaid cau’r sioe. Wrth i’r byd addasu, a dechrau gallu gweithio o adre ac yn y blaen, ro’n i’n ysu i gael mynd yn ôl dros y dŵr, ond dydi’r diwydiant perfformio ddim mor hawdd â hynny! Yn y gân dw i’n gofyn i’r wylan os oes ganddi le i mi fynd ar ei hadain, yn ôl i Groeg.”

Bellach, mae Glain wedi cael ei dymuniad ac mae hi nôl yng Ngroeg am gyfnod yn perfformio Phantom of the Opera. Mae hi hefyd yn aelod o’r grŵp lleisiol anhygoel o dalentog, Welsh of the West End, sydd wedi serennu mewn sawl digwyddiad byw yn ogystal ag ar lein bellach.

Albwm ar y ffordd

Mae Glain wedi bod yn cydweithio’n agos gyda’r cynhyrchydd Osian Huw Williams ar offeryniaeth a chynhyrchiad ei chaneuon ac Osian sydd hefyd yn chwarae bron pob offeryn ychwanegol. 

Y cerddor anhygoel Partick Rimes (VRï / Calan) sydd wedi trefnu’r llinynnau ar gyfer y gân ac wedi perfformio pob un ohonynt. Mae dylanwadau newydd Glain yn cynnwys Billie Eilish, Greta Isaac, Orla Gartland a Phoebe Bridgers.

Rhyddheir albwm Glain ddiwedd gwanwyn 2023, a threfnir cyfres o gigs byw i gyd-fynd â hyn.