Gwcci yn rhyddhau ‘anthem ar gyfer yr haf’

Mae Gwcci wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 2 Mehefin. 

‘Hotel’ ydy enw’r trac newydd gan y grŵp dirgel ac mae allan ar label Recordiau BICA. 

Anthem ar gyfer haf 2023 ydy ‘Hotel’ yn ôl y label, ac mae’n ddilyniant i senglau blaenorol  Gwcci, sef ‘Canna’ a ryddhawyd fis Chwefror eleni a ‘Sgerbyde’ a ryddhawyd fis Hydref diwethaf. 

Triawd cudd ydy Gwcci, ond gallwch eu gweld yn perfformio mewn nifer o gigs dros yr haf, gan gynnwys Tafwyl ar benwythnos 15-16 Gorffennaf a Swansea Summer Ball ar y 9 Mehefin ynghyd ag artistiaid megis Sub Focus, Steel Banglez a Caity Baser. 

I gyd-fynd a’r sengl newydd, mae’r criw dirgel hefyd yn rhyddau fideo sinematig sy’n gwthio ffiniau creadigol y sîn gerddoriaeth Gymraeg yn ôl Recordiau BICA. 

Dyma’r fid: