Mae’r prosiect hip-hop newydd a dirgel, Gwcci, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 3 Chwefror.
‘Canna’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Bica.
Dyma ail sengl Gwcci, gan ddilyn y trac ‘Sgerbyde’ a ryddhawyd fis Hydref diwethaf o gwmpas cyfnod Calan Gaeaf.
Deuawd cudd ydy Gwcci, ac maent wedi cyd-weithio â’r cynhyrchydd FRMAND, sy’n gyfrifol am label Bica, i ryddhau plethora o diwns newydd – y diweddara am fywyd ym Mhontcanna, un o ardaloedd cefnog Caerdydd.
Mae’r ddeuawd yn ffrwydro i mewn i 2023 gyda’r bwriad o godi tymheredd y byd cerddoriaeth Gymraeg.
Mae Gwcci yn codi eu sŵn i lefel newydd, ac mae’r sengl ddiweddaraf yn dod ddyddiau cyn eu hymddangosiad byw cyntaf ar Ddydd Miwsig Cymru yng Nghlwb Ifor Bach ar 10 Chwefror pan fyddan nhw’n chwarae gyda llu o artistiaid eraill sy’n cynnwys Tara Bandito, Mali Hâf, Dom James a Lloyd, Parisa Fouladi a mwy.
Mae ‘Canna’ allan ar y prif lwyfannau digidol arferol.