Mae’r prosiect hip-hop dirgel o Gaerdydd, Gwcci, wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf.
‘Tân’ ydy enw’r trac newydd ganddynt sydd allan ar label Recordiau BICA ers dydd Gwener diwethaf, 4 Awst.
Gyda’r sengl ddiweddaraf mae’r band yn symud i gyfeiriad gwleidyddol. Yn gwthio yn erbyn anghyfiawnderau’r sefyllfa ail dai yng Nghymru heddiw, mae sengl ddiweddaraf Gwcci yn fynegiant angerddol o rwystredigaeth.
Yma, mae’r triawd dirgel yn rhoi sbin nhw’i hunain ar drac Plethyn, ‘Tân yn Llŷn’, gan gyfuno rap a dril i greu anthem drydanol.
Gyda’u masgiau nodedig a’u hagwedd di dal yn ôl arbennig, mae Gwcci wedi bod yn prysur godi momentwm – a chefnogwyr ar hyd y ffordd – yr haf yma, gan chwarae i dorfeydd enfawr yn rhai o wyliau mwyaf Cymru gan gynnwys Tafwyl fis diwethaf.
Maent yn parhau i wthio ffiniau gyda’u sengl ddiweddaraf ‘Tân’ – cân sy’n adrodd pryderon Gwcci am y sefyllfa ail dai presennol a’r effaith mae hyn yn ei chael ar gymunedau Cymreig.
Bydd cyfle i weld Gwcci yn perfformio ar lwyfan Maes B yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar nos Wener 11 Awst.