Mae Rio 18, sef prosiect heulog diweddaraf y cerddor cynhyrchiol Carwyn Ellis, wedi rhyddhau sengl newydd.
‘Gwely’r Môr’ ydy enw’r cynnig samba hafaidd diweddaraf, a dyma’r drydedd sengl ganddynt eleni sy’n gweld Rio 18 yn cyd-weithio gydag artist arall.
Elan Rhys o’r band Plu ydy’r partner diweddaraf, un sy’n gyfarwydd i Rio 18 ac sydd wedi benthyg ei llais ar ganeuon y prosiect yn y gorffennol.
Yn ogystal â Carwyn ei hun ac Elan, y cerddorion eraill sydd wedi chwarae ar y trac ydy Shawn Lee o’r Unol Daleithiau ar y dryms, ac yna Andre Siqueira a Kassin o Rio de Janeiro yn gyfrifol am yr offer taro a’r bas. Kassin sydd hefyd yn gyfrifol am y gwaith cymysgu, a Shawn Lee sydd hefyd wedi cynhyrchu’r trac.
Fideo gan Tomo
I gyd-fynd â’r sengl, mae fideo animeiddiedig arbennig wedi greu gan yr animeiddiwr a darlunydd o Japan, Tomo Oricama. Daeth Carwyn ar draws gwaith Tomo gyntaf ar y fideo ‘Float’ gan The Altons, a dywed ei fod yn gwybod yn syth ei fod am weithio gyda’r artist.
“Mae ei steil yn gweithio’n berffaith ar gyfer y gân yma, ac mae wedi bod yn freuddwyd i weithio gydag ef” meddai Carwyn.
Comisynwyd y fideo gan Lŵp S4C, ac mae ar gael i’w weld nawr ar lwyfannau digidol Lŵp.
Wrth ryddhau’r trac newydd mae Rio 18 hefyd wedi cyhoeddi manylion eu gigs cyntaf erioed ym Mecsico. Dyma’r manylion:
28 Medi 2023 – Musak, Mexico City
1 Hydref – Jazzatlán, Mexico City
7 Hydref – La Brújula, Xalapa
Mae ‘Gwely’r Môr’ ar gael nawr ar yr holl lwyfannau digidol arferol.