Gwilym ar daith ddiwedd Medi

Mae’r band poblogaidd Gwilym wedi cyhoeddi manylion cyfres o gigs ganddynt ddiwedd mis Medi. 

Daw’r newyddion yn fuan ar ôl i’r band ryddhau eu hail albwm, ‘Ti Ar Dy Ora Pan Ti’n Canu’ – bu iddynt ryddhau’r albwm fel dau ran, sef dau EP chwech trac yr un. 

I gyd-fynd â rhyddhau’r albwm llawn, mae’r band wedi cyhoeddi manylion taith 5 dyddiad fydd yn eu gweld yn perfformio yn Wrecsam, Aberystwyth, Caerfyrddin, Abertawe a Chaerdydd. 

Bydd y daith yn dechrau gyda gig yn Saith Seren, Wrecsam ar 22 Medi cyn ymweld â’r Cŵps yn Aberystwyth ar 26 Medi, Cwrw yn Nghaerfyrddin ar 27 Medi, Bunkhouse yn Abertawe ar 28 Medi ac yna byddan nhw’n cloi’r daith yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 29 Medi. 

Bydd Gwilym yn cael eu cefnogi gan Y Cledrau ar y daith.