Gwilym yn rhyddhau ail ran albwm

Mae’r band poblogaidd, Gwilym, wedi rhyddhau ail hanner eu albwm newydd. 

Mae ‘rhan dau’ allan nawr ar label Recordiau Côsh ac yn ddilyniant i ‘rhan un’ a ryddhawyd ddechrau mis Mehefin eleni

Penderfynodd Gwilym arbrofi gyda dull gwahanol o gyhoeddi eu hail albwm, sef i ryddhau’r record ar ffurf dau EP. 

Dywed label Recordiau Côsh eu bod wedi cyffroi’n lan i gael rhannu ail hanner albwm newydd Gwilym, sydd wedi bod yn cael ei greu dros y pedair blynedd ddiwethaf. Gan gwffio drwy bandemig fyd-eang, byw ar wasgar, gorffen coleg a thyfu fyny, mae’r cyfanwaith yn adlewyrchu’n gwaith caled mae’r aelodau i gyd wedi rhoi mewn i’r cynnyrch terfynol.

Cafodd sengl ddiwethaf y band, ’05:00′, ei gynnwys ar restr chwarae ‘New Music Friday’ Spotify – rhestr ecsliwsif i gant cân bob dydd Gwener, allan o’r 700,000 o ganeuon sy’n cael ei rhyddhau’n wythnosol. 

Mae’r gân bellach wedi ei chynnwys ar restrau ‘Peach’ a ‘Fresh Finds’, a hynny ar ben llwyddiant eu senglau blaenorol, ‘cynbohir’ a ‘IB3Y’, fydd hefyd yn ymddangos ar yr albwm llawn. 

Bydd yr albwm cyfan, sydd wedi ei gynhyrchu gan Rich James Roberts, yn cael ei rhyddhau’n gyflawn ac yn swyddogol ar y 4 Awst, a gydag ’chydig o lwc yn ôl Côsh, bydd copïau caled ar gael gan y band yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan.

Bydd cyfweliad gyda’r band yn rhifyn newydd cylchgrawn Y Selar sy’n cael ei ryddhau erbyn wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol.