MaeGwilym wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf gydag addewid o albwm i ddilyn yn fuan.
‘IB3Y’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Côsh, ac sy’n flas o’r hyn y gallwn ni ddisgwyl ar ail albwm y grŵp poblogaidd o Fôn ac Arfon.
Cymharol dawel fu Gwilym dros y cwpl o flynyddoedd diwethaf ar ôl llwyddiant ysgubol albwm cyntaf y band, ‘Sugno Gola’ a ryddhawyd yn 2018.
Bu bron blwyddyn ers iddynt ryddhau eu sengl ddiwethaf, ‘cynbohir’ gyda’r gwestai arbennig Hana Lili yn canu ar y trac ym Mehefin 2022. Bryd hynny, dywedodd y band mai’r sengl oedd y blas cyntaf o’u hail albwm fyddai’n dilyn yn fuan, ond tawelodd y sôn am y record hir wedi hynny…nes nawr! Ac mae’n ymddangos eu bod nhw am ryddhau caneuon eu record hir newydd mewn dull go anarferol.
Pwrpas eu sengl gyntaf ers haf diwethaf ydi i gyhoeddi fod hanner cyntaf eu halbwm newydd ar fin cael ei ryddhau.
Bydd ‘rhan un’ yn cael ei ollwng i’r byd fel EP sy’n cynnwys 6 trac oddi ar yr albwm, ac yna fydd ail hanner yr albwm yn cael gweld golau dydd nes ymlaen tuag at ganol yr haf, gyda’r cyfanwaith ar gael pan fydd y band yn ymddangos yn fyw mewn gwyliau cerddorol ledled Cymru.
Bydd ‘IB3Y’ – sy’n sefyll am “It’s Been 3 Years” – yn ymuno gyda’r traciau ‘dwi’n cychwyn tân’, ‘o ddifri’, ‘teimlo’n well’, ‘cau fy ngheg’ a ‘disgyndisgyndisgyn’ ar y casgliad, fydd ar gael ar y gwasanaethau ffrydio arferol.
Trac ‘budr’ yr ail albwm
Yn ôl gitarydd hoffus y band, Llew Glyn, mae ‘IB3Y’ eisoes yn drac poblogaidd ymysg cynulleidfaoedd byw Gwilym.
“Gafodd hon ei sgwennu yn Stiwdio Ferlas hefo Rich [Roberts]” meddai Llew wrth sgwrsio gyda’r Selar.
“Ers cychwyn y broses o recordio’r ail albwm, oedden ni isho un trac budur, sydyn, byr ar yr albwm, ac IB3Y oedd honna!
“Ma’i di bod yn rhan o’r set fyw ers ryw flwyddyn a hanner, a mae’r ymateb mewn gigs yn gret. Ma pobol yn mynd yn nyts!!
“Ma’ rywun wastad yn nerfys pan mae’r cloc yn taro hanner nos ar noson rhyddhau sengl newydd. Nerfys o be ma pobol yn mynd i feddwl ohoni, ydi hi’n mynd i fod yn fflop, ydi o am gyrraedd number one yn y charts, ayyb, ond o’r eiliad gynta mae’r ymateb wedi bod yn galonogol iawn.
“Dydi o ddim yn flaenoriaeth arnyn ni o gwbwl, ond mi oedd cyrraedd rhestr chwarae New Music Friday UK yn neis, a mae’n braf gwybod bod ein cerddoriaeth ni’n cyrraedd clustiau newydd.”
Gwerth yr aros
Mae Llew yn cydnabod bod recordio’r ‘ail albwm anodd’ enwog wedi bod yn broses hir ond yn gobeithio bydd hi’n werth yr aros i ffans Gwilym.
“Mi fydd yr albwm allan Haf ’ma mewn dau ran – y rhan gyntaf i ddod yn fuan, a’r ail nes mlaen” eglura Llew.
“Mae’r broses o dair mlynedd ers y sesiwn stiwdio cyntaf wedi bod yn hir, ond ’da ni’n gobeithio fydd o werth o!
“[Bydd] digon o gigs ar draws Cymru yn yr haf i bobl gael clywed y stwff newydd am y tro cyntaf. Dwi wrthi’n trefnu taith ddiwedd Medi ’fyd, felly hynna reit gyffrous!”
Er bod yr ail albwm wedi cymryd cyhyd i’w recordio, a’u bod nhw’n hynod boblogaidd, band cymharol newydd ydy Gwilym o hyd.
Dim ond yn 2017 y sefydlwyd hwy fel band, ond erbyn 2020 roedden nhw’n cael eu gweld fel un o fandiau mwyaf y sin Gymraeg ar ôl cipio 5 o Wobrau’r Selar yn Chwefror y flwyddyn honno, gan gynnwys teitl y ‘Record Hir Orau’ am Sugno Gola’.
Roedd cyfle cyntaf i glywed ‘IB3Y’ ar raglen BBC Radio Cymru Tudur Owen ar 28 Ebrill, wythnos cyn y dyddiad ryddhau, ac roedd y trac hefyd wedi’i gynnwys ar restr chwarae New Music Friday gwasanaeth ffrydio Spotif ar ddiwrnod rhyddhau’r sengl ddydd Gwener diwethaf.