Mae’r band poblogaidd Gwilym wedi rhyddhau eu sengl ddiweddaraf ar label Recordiau Côsh
’05:00′ ydy enw’r trac newydd gan y pumawd ac mae allan ers dydd Gwener diwethaf, 30 Mehefin.
Yn ôl Côsh, mae Gwilym ar fin cyffroi’r byd cerddoriaeth yng Nghymru gyda cherddoriaeth newydd, gan ddechrau gyda’u sengl newydd ’05:00′ (pump yn y bore).
Mae’r band wedi dod yn adnabyddus am eu sain hudolus a’u doniau amlwg, ac maent bellach yn cael eu gweld fel un o fandiau fwyaf poblogaidd Cymru, yn enwedig ers cipio pump o Wobrau’r Selar yn Chwefror 2019.
Maent wedi mynd ati i ryddhau eu hail albwm mewn ffordd unigryw, sef i ryddhau’r caneuon ar ffurf dau EP. Mae’r cyntaf o’r rhain, ‘rhan un’, eisoes wedi glanio ar ddechrau mis Mehefin, ond mae ’05:00′ yn dod oddi ar ail ran eu halbwm, fydd yn ein cyrraedd cyn hir.
Ar ôl llwyddiant eu traciau diweddar, gan gynnwys ‘cynbohir’ a ‘IB3Y’, a gyrhaeddodd restrau chwarae ‘Peach’ a ‘New Music Friday UK’ ar Spotify, mae Gwilym yn barod i ryddhau eu sengl newydd ’05:00′.
Mae’r sengl newydd yn gyfuniad unigryw o alawon ysblennydd a geiriau synfyfyriol, ac yn parhau i gyflwyno taith sonig newydd y band.
Dyma ’05:00′: