Gwobr Goffa Richard a Wyn Ail Symudiad

Cynhelir cystadleuaeth newydd i fandiau ifanc er cof am y brodyr Richard a Wyn Jones ar 10 Chwefror. 

Cystadleuaeth flynyddol fydd hon gan drefnwyr Gŵyl Fel ‘na Mai yng Nghrymych gyda’r nod o wobrwyo artistiaid ifanc newydd o Sir Benfro, Sir Gâr neu Geredigion a rhoi hwb i’w gyrfa cerddorol.

Mae’r gystadleuaeth yn agored i fandiau o’r siroedd hyn yn benodol, ac fe’i cynhelir yn Neuadd Hermon, Sir Benfro ar 10 Chwefror. 

‘Tlws Her Gorffa Richard a Wyn’ ydy’r brif wobr a hynny er cof am y ddau frawd oedd yn aelodau o’r band o Aberteifi, Ail Symudiad, ac oedd hefyd yn gyfrifol am sefydlu a rhedeg label Recordiau Fflach.

Bu farw Wyn ym mis Mehefin 2021 wedi cyfnod o salwch, cyn i’w frawd Richard yntau farw’n sydyn gwta fis yn ddiweddarach. Dros y degawdau roedd eu cyfraniad i gerddoriaeth Gymraeg, yn enwedig yn y De Orllewin, yn amhrisiadwy. 

Yn ogystal â’r tlws, bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £200 a chyfle i berfformio yng Ngŵyl Fel ‘Na Mai 2023. 

Mae’r gystadleuaeth yn agored i fandiau neu artistiaid ifanc a rhaid i berfformiadau fod yn y Gymraeg. Bydd disgwyl iddynt wneud set o ddim mwy na chwarter awr ar y noson. Does dim rhaid i’r caneuon fod yn rai gwreiddiol, ond gorau oll os ydyn nhw yn ôl y trefnwyr.  

Beirniaid y gystadleuaeth ydy Dafydd ac Osian Jones, meibion Richard Fflach, oedd hefyd yn aelodau o Ail Symudiad yn y blynyddoedd diweddar. Bydd Elidyr Glyn o’r band Bwncath hefyd yn feirniad a bydd y noson yn cael ei harwain gan y cyflwynydd radio Mirain Iwerydd. 

Bydd Bwncath yn perfformio ar ddiwedd y noson ar ôl y gystadleuaeth. 

Mae’r dyddiad cau ar gyfer rhai sy’n dymuno cystadlu wedi pasio bellach. 

Gwobr Goffa Richard a Wyn Ail Symudiad