Gŵyl Bryncynan gan Afanc

Mae label recordiau electronig Afanc wedi cyhoeddi manylion gŵyl amgen y byddan nhw’n cynnal yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol, dafliad carreg o faes yr Eisteddfod yn Moduan. 

Gŵyl Y Bryncynan ydy enw’r digwyddiad pedair noson a gynhelir yn Nhafarn y Bryncynan sydd ym Morfa Nefyn, dim ond ychydig filltiroedd o Foduan. 

Yn ôl y label, gwnaed y penderfyniad i gynnal yr ŵyl yn hwyr yn y dydd, a hynny fel ymateb i’r diffyg cynrychiolaeth o ran amrywiaeth cerddorol ar arlwy swyddogol yr Eisteddfod. 

Yn wir, dim ond pythefnos sydd ers i Afanc ddechrau mynd ati i drefnu’r digwyddiad ac yn yr amser hwnnw maen nhw wedi llunio’r arlwy, selio’r lleoliad, bwcio’r artistiaid, trefnu criw diogelwch a system sain, ynghyd â’r holl bethau ymarferol eraill. Maen nhw hyd yn oed wedi trefnu bod safle gwersylla ar gael i’r sawl sy’n dymuno aros ar y safle dros y cyfnod. 

Bydd y gigs yn dechrau ar nos Fercher yr Eisteddfod, sef 9 Gorffennaf gyda gigs bob nos wedi hynny nes cloi ar nos Sadwrn olaf yr Eisteddfod, 12 Gorffennaf. 

Cynrychiolaeth

Bydd yr arlwy’n agor ar y nos Fercher gyda’r rapiwr Sage Todz yn hedleinio, gyda chefnogaeth gan Kim Hon, Skylrk, Sachason a’r band ifanc o Gaerdydd, Ble? 

Ymysg yr enwau amlycaf fydd yn perfformio ar y nosweithiau canlynol mae’r cynhyrchydd a DJ amlwg, Yam Who?, y DJ Hollie Profit, Roughion, 3 Hwr Doeth a Mr Phormula.  

“Roedd e’n benderfyniad eitha rhwydd i ddewis neud y gigs yma ond roedd amser yn erbyn ni” meddai Afanc. 

“Welon ni nad oedd representation llawn yn cael ei rhoi eleni [yn yr Eisteddfod] gan fod rhai pobl yn chware cant a mil o weithiau a rhai eraill ddim o gwbl so ein bwriad oedd rhoi platfform i’r artistiaid yna, rhoi cyfle i’r artistiaid o Gymru sydd ar y brîg yn ei adrannau tu allan i Gymru (Yam Who? Sage Todz, Mr Phormula etc). A hefyd gweld os odd e’n bosib rhoi rhywbeth fel hyn ymlaen.

“Ma’r line ups yn anhygoel ar gyfer hwn a ni wedi cysylltu gyda’n ffrindiau i neud nosweithiau gwahanol bob nos.”

Mae’r noson agoriadol yn cael ei threfnu ar y cyd gyda’r brand dillad Cymreig newydd, Gwalia, sydd wedi’i sefydlu gan Cai Rhys. 

“Daeth y cysylltiad gyda Gwalia ar ol i Cai fynd fyny i weld y lleoliad dechrau mis Mehefin on a whim, just happenio bod yn yr ardal. Ond roeddwn ni a Cai yn trafod am neud gig ar gyfer ei lansiad gyda Gwalia yn barod felly oedd hwn, rhoi digwyddiad ymlaen lle ma han fwyaf o’r target market am fod yn no brainer” eglura Afanc. 

Mae Hollie Profit yn DJ uchel ei pharch sy’n dod yn wreiddiol o Ogledd Cymru ond sydd bellach wedi’i lleoli yn Brighton, ac sy’n prysur wneud enw i’w hun yno ac yn llwyfannu nosweithiau dan yr enw Les Hoots. 

“Ma Hollie yn dod o’r ardal ac o ni’n gwybod bod ei noson hi yn agosáu at 4 mlynedd o fodolaeth felly ar ol sgwrs ddifyr cwpwl o wythnosau yn ôl penderfynwyd cael hi on board a rhoi noson Les Hoots ymlaen.” 

Mae’r label yn addo bydd y nos Sadwrn yn barti i’w gofio gyda Mr Phormula yn hedleinio a llwyth o artistiaid lleol o Ogledd Cymru sydd “ar frig eu gêm” yn ôl Afanc, yn cefnogi.  

Mae tocynnau gwersylla ar gyfer y digwyddiad ar gael bellach am £50 am yr wythnos. Mae nifer cyfyngedig o 25 tocyn y noson ar gael am ddim ond £5, a bydd y nosweithiau unigol yn £10 yr un wedi hynny. Mae modd archebu tocynnau ar wefan Skiddle trwy chwilio am Gŵyl Y Bryncynan. 

 

Leinyp llawn Gŵyl Y Bryncynan

 

Mercher – Take over Gwalia (genres amrywiol) 

Sage Todz

Kim Hon 

SkyLrk + Sachasom 

Ble? 

 

Iau – Take over Les Hoots (disco, house) 

Yam Who? 

Hollie Profit 

Fairhurst 

Ecks Etra 

Josh & Jema 

Ffion Hix 

 

Gwener 

Roughion (yn fyw ac yn chware alwym newydd am y tro cyntaf) 

3 Hwr Doeth 

Martyn Kinnear 

Alaw. 

Secret DJ b2b… 

 

Sadwrn – Club night gorau Nefyn 

Mr Phormula 

Mr Ed 

Skanking Sounds 

Ben Selecjah (pen dub) 

Daniel Jaques 

Urma Cox 

Fred Merlin