Gŵyl Canol Dre yn ôl

Bydd Gŵyl Gymraeg tref Caerfyrddin, Gŵyl Canol Dre, yn dychwelyd eleni ac mae’r trefnwyr wedi cyhoeddi’r arlwy gerddorol. 

Datgelwyd wythnos diwethaf mai dydd Sadwrn 8 Gorffennaf fydd dyddiad yr ŵyl eleni, ac fe fydd unwaith eto’n cael ei chynnal ar Barc Myrddin, yn agos iawn at ganol y dref. 

Cyhoeddwyd hefyd y bydd chwip o lein-yp cerddorol i’r ŵyl eleni gydag Yws Gwynedd yn brif atyniad ar y llwyfan perfformio. 

Bydd Eden hefyd yn perfformio yn y digwyddiad, ynghyd â Gwilym, Y Cledrau, Lowri Evans, Angharad Rhiannon a Bald Patch Pegi. 

Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr sy’n trefnu’r ŵyl, ac yn ogystal â’r artistiaid cerddorol ar y prif lwyfan, bydd pob math o weithgareddau eraill ar y dydd gan gynnwys sesiwn werin, stondinau bwyd a chelf, chwaraeon, sesiynau llenyddiaeth, chwaraeon, gweithdai amrywiol a mwy. 

Mae mynediad i’r ŵyl yn rhad ac am ddim, ac yn digwydd rhwng 11:00 a 20:00 ar 8 Gorffennaf.