Bydd y gantores pop ddwy-ieithog, Hana Lili, yn cefnogi’r band byd enwog Coldplay wrth iddynt berfformio yng Nghaerdydd fis Mehefin.
Bydd Coldplay yn perfformio yn Stadiwm y Principality yng Ngaerdydd ar 6 a 7 Mehefin fel rhan o’u taith byd eang i hyrwyddo ei halbwm diweddaraf ‘Music of the Spheres’.
Ar gyfer y gigs yng Nghaerdydd bydd Hana Lili yn ymuno â nhw fel cefnogaeth, ynghyd a’r band Chvrches.