HMS Morris yn rhyddhau ‘House’

Mae HMS Morris wedi ryddhau eu sengl Saesneg ddiweddaraf ers dydd Gwener diwethaf, 19 Mai. ‘

House’ ydy enw’r trac newydd ac maent hefyd wedi cyhoeddi mai enw eu trydydd albwm fydd ‘Dollar Lizard Money Zombie’.

‘House’ ydy ail sengl HMS eleni ac maen addewid chwareus/sarheus i gael gwared o bob tŷ hâf yng Nghymru (yn arbennig yng Ngheredigion fel mae’n digwydd).

Caiff y freuddwyd ei phecynu fel trac garage-rock; jyst y peth i godi hwyliau wrth gynhesu o flaen y tân. Mae’r sengl newydd allan ar label Bubblewrap a bydd fideo’n dilyn ar 29 Mai.