Hudo’n codi o lwch Y Promatics

Hudo ydy enw’r band newydd sy’n cynnwys dau aelod oedd yn arfer bod yn y band Y Promatics. 

Roedd Y Promatics yn fand amlwg rhwng tua 2005 a 2010 gan ffurfio’n wreiddiol yn Nyffryn Nantlle, cyn ymsefydlu’n rhannol yng Nghaerdydd yn ystod y cyfnod gan gigio tipyn yn y ddinas.

Penllanw eu gweithgarwch oedd rhyddhau’r EP ‘100 Diwrnod Heb Liw’ ar label Sbrigyn-Ymborth yn 2009, a daeth y trac ‘Seisnigeiddio’ yn enwedig yn un poblogaidd ar y tonfeddi. 

Mae dau o’r aelodau, Daniel Williams (gitâr/llais) a Rhys Roberts (gitâr fas), nawr wedi mynd ati i ffurfio grŵp newydd o’r enw Hudo a bydd eu sengl gyntaf yn glanio ym mis Ebrill. 

‘Arswyd’ ydy enw’r trac cyntaf gan y grŵp a bydd allan ar 14 Ebrill. 

Gwaddol y pandemig

Yn ôl Dan Williams, ffryntman Hudo, mae’r ymdeimlad o gyffro, neu adfywiad, ar ôl y pandemig wedi ei ysgogi i fynd ati i ysgrifennu cerddoriaeth unwaith eto, a chanlyniad hynny ydy ffurfio Hudo. 

Mae enw’r band  yn codi o waddol y pandemig hefyd, ac yn benodol y syniad hwnnw o hudo pobl yn ôl i lefydd oedden nhw’n arfer mynychu, ac i wneud y pethau roedden nhw’n arfer gwneud. Eu gobaith ydy y bydd pobl yn gallu ymgolli yn eu cerddoriaeth ac anghofio am bopeth arall am ryw ychydig. 

Mae’r ddau gyn-aelod o’r Promatics wedi recriwtio dau gerddor arall i ymuno â nhw sef Osian Carrol (Dryms) a Charlie Jones (gitâr), ond mae’r sŵn indie rock oedd yn perthyn i’w band blaenorol yn parhau yng ngherddoriaeth Hudo. 

“Ma’n neis cael creu a chwarae cerddoriaeth eto” meddai Dan wrth Y Selar

“Mae di bod yn dros 10 mlynedd ers i mi ryddhau unrhyw fath o gerddoriaeth felly mae’n deimlad eithaf cathartic. 

“Cafodd y sengl ei recordio gan Aled Hughes yn stwidio Sain a’i chymysgu gan Llyr Pari. Mae ‘Arswyd’ yn drac egnïol ei sain sy’n ennyn teimladau o frad, angst a llygedyn o obaith.”

Mae’n ymddangos mai dim ond y dechrau ydy’r sengl gyda’r band eisoes wedi dechrau recordio eu halbwm cyntaf yn stiwdio Sain,  Llandwrog. 

Dyma bach o ‘Seisnigeiddio’ i’ch hatgoffa chi o sŵn Promatics: