Huw Haul yn rhyddhau’r cryno albwm ‘Be ti’n credu?’ 

Yn gerddor profiadol, ac yntau wedi bod yn rhan o brosiectau megis Tystion, MC Mabon ac eraill, mae Huw ‘Haul’ Morgan wedi rhyddhau ei gynnyrch diweddaraf ar ffurf y cryno amlwm, Be Ti’n Credu. 

Record wyth trac ydy ‘Be ti’n credu?’, a’i arddull yn cael ei ddisgrifio ganddo fel ‘roc sydd bach yn wahanol’. Mae’n cynnwys elfennau acwstig cryf wedi eu cyfuno â thameidiau electronig, gitâr trwm a “lot o gariad”.  

Daw enw’r albwm o drac sy’n rhannu’r un enw, a disgrifir y gân fel un sy’n ymwneud â dehongliad personol yr artist o Gymru ac o Gymry. 

Caiff themâu eraill eu harchwilio ganddo drwy’r caneuon myfyrdodol hyn, sy’n cynnwys cymhlethdodau perthynas (‘Oriau Man’, ‘Waliau’), y ffin rhwng natur a phobl (‘Creadur Natur’, ‘Lloer-syllwr’, ‘Mari’), byw yn ddigartref (‘Bocsys’) a “nonsens arallfydol” (‘Dyn fel Ninnau’). 

Daw Huw Morgan o Fachynlleth, ac wedi blynyddoedd yn cydweithio â pheth wmbreth o artistiaid eraill, mae’n dweud ei fod yn mwynhau canolbwyntio ar ysgrifennu a recordio caneuon ar ei ben ei hun bellach. 

Serch hynny, mae cyfraniad lleisiol Bethan Morgan a chynhyrchu Mike West yn rhan annatod o’r cyfanwaith. 

Mae’r albwm eisoes ar gael ar yr holl blatfformau digidol, a bydd cryno-ddisg i’w brynu’n fuan. 

Dyma’r teil-drac: