Mae Iwcadwli, sef cerddorfa ukulele Gymraeg Aberystwyth sy’n cael ei redeg gan Cered: Menter Iaith Ceredigion yn bump oed ym mis Hydref eleni.
I ddathlu’r achlysur, maent yn rhyddhau ‘Eneidiau Hoff Cytûn’ sef eu cân wreiddiol gyntaf fel eu sengl gyntaf erioed.
Mae’r sengl allan ers 16 Hydref ar label Recordiau Hambon.
Phil Davies, un o hoelion wyth Iwcadwli sydd yn gyfrifol am y geiriau hyfryd a Steff Rees, yr arweinydd sydd yn gyfrifol am y gerddoriaeth fywiog.
Mae Steff hefyd yn gyfarwydd fel ffryntman a sylfaenydd y band Bwca, a bu’r ddau yn cydweithio tipyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf ar ganeuon ar gyfer ail albwm Bwca sydd wedi ei ryddhau yn ddiweddar. Yn ystod y cyfnod hwn, penderfynodd y ddau i droi eu sylw at greu cân i ddathlu pen-blwydd Iwcadwli.
Yn gerddorol, mae’r gân hon yn llawn ysbryd oes euraidd yr ukulele gyda’i strymio cyflym, cordiau annisgwyl a hyd yn oed solo casŵ. Neges y gân yw sut mae holl aelodau Iwcadwli mor wahanol ond eto pan ddaw pawb at ei gilydd maent yn uno fel un band.
‘Pan y down ni yn un criw a’n miwsig ar y stand
Ni fydd ein hoed yn cyfri dim wrth uno yn y band’
Recordiwyd a chynhyrchwyd y gân yn Our Lady Studio yn Y Borth gan Mike West. Yn ogystal â chlywed Steff a bron i 30 o aelodau Iwcadwli ar y trac mae gwraig a mab Mike sef Katie a Julian West yn helpu allan ar y bas dwbl a’r drymiau. Hoffai Iwcadwli hefyd ddiolch i Hannah McCarthy am baratoi’r trefniant cerddorol a hefyd i Alis Haf am y gwaith celf.