Mae’r Selar yn falch iawn i gyhoeddi mai Izzy Rabey ydy enillydd Gwobr 2022 Gwobrau’r Selar.
Datgelwyd y newyddion i Izzy gan Huw Stephens fel rhan o’i raglen BBC Radio Cymru ar nos Iau 16 Chwefror.
Roedd y newyddion yn amlwg yn dipyn o syndod iddi,
“Fi’n really, really shocked” meddai Izzy wrth ymateb ar raglen Huw Stephens.
“Ma fe’n meddwl cymaint i fi achos ma fe’n fraint bod fi’n gallu cael gyrfa ble dwi’n teimlo mae bob peth dwi’n ’neud fi’n trio ’neud mewn allignment gyda beth fi’n credu ynddi.
“Fi ’mond yn neud prosiectau fi’n really credu ynddi, fi ’mond yn sgwennu ynglŷn â stwff fi’n credu ynddi, a fi’n gweithio ’da pobl fi’n really really meddwl sy’n bwysig i’r tirwedd Cymraeg.”
Artist aml-dalentog
Does dim llawer o artistiaid mor aml-daentog ag Izzy Rabey yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae’m gyfarwyddwr theatr ac ymarferwraig theatr, yn golofnydd i gylchgrawn Golwg, ac yn rapiwr ardderchog.
Mae wedi bod yn ysgrifennu ac yn rapio yn yr iaith Gymraeg ers sawl blwyddyn, ond mae’n deg dweud mai ei phartneriaeth gerddorol gydag Eädyth sydd wedi dod â hi i sylw ehangach o fewn y sin gerddoriaeth Gymraeg gyfoes. Arweiniodd y bartneriaeth yma at ryddhau’r EP, Mas o Ma, yn Hydref 2020, ac yn ddiweddarach yr anthem i Gymru fodern, ‘Cymru Ni’.
Mae Izzy hefyd ydy un hanner y ddeuawd pync / gwerin / RnB amgen, The Mermerings ac mae hefyd newydd ryddhau sengl unigol newydd, ‘Gwaed’.
“Fi di bod yn rapio’n yr iaith Gymraeg ers saith ‘mlynedd nawr, ’dyw e ddim yn rywbeth newydd fi ’di neud” meddai Izzy wrth Huw.
“Fi di bod yn sgwennu caneuon ers o’n i’n arddegau fi a chreu theatr ers o’n i’n ugeiniau cynnar fi, felly ma fe jyst yn really neis. Fi jyst wastad yn mynd i ddal mlân i neud beth fi’n neud a ma fe’n real sioc ac ma fe’n fraint huge jyst cal pobl yn cymryd sylw o hynny.”
Cynrychioli nod y wobr
Tîm golygyddol Y Selar sy’n gyfrifol am ddewis yr enillydd ar gyfer y wobr benodol yma ac mae’r enillwyr blaenorol yn cynnwys Eädyth yn derbyn Gwobr 2020 a Merched yn Gwneud Miwsig yn derbyn Gwobr 2021.
Yn ôl tîm golgyddol Y Selar, mae Izzy’n adlewyrchu’n union yr hyn mae’r wobr yma i fod i’w gynrychioli.
“Mae Y Selar yn teimlo bod Izzy Rabey yn esiampl berffaith o’r mae’r wobr benodol yma’n ei gynrychioli” meddai Owain Schiavone, Uwch Olygydd Y Selar.
“Mae’n llais ffresh, cryf o fewn y diwydiant cerddoriaeth Gymraeg sy’n gweithredu mewn modd positif i sicrhau cyfartaledd o fewn y sin boed hynny’n roi llwyfan amlycach i ferched, i’r gymuned LQBTQ+ neu bobl o liw ac o gymunedau ethnig.
“Wrth gwrs, mae hefyd yn creu cerddoriaeth wych, mewn cydweithrediad ag artistiaid eraill fel Eädyth, ond hefyd ar ben ei hun.
Roedd Izzy yn ran o Sgwrs Selar a drefnwyr fel rhan o Ŵyl Triban ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Ninbych llynedd, ac mae’n werth gwrando nôl ar y sgwrs honno i gael syniad o’i hegni a brwdfrydedd dros yr hyn mae’n credu ynddo.
Dyma’r eiliad y cyhoeddwyd y newyddion gan Huw Stephens:
Ymateb amhrisiadwy @IzzyMorgana i ddeall ei bod yn derbyn Gwobr 2022 yng Ngwobrau’r @Y_Selar eleni!
Llongyfarchiadau enfawr, Izzy!
Mwy o ymateb Izzy gyda @HuwStephens https://t.co/tCulJgB6Qc pic.twitter.com/Kv411ROi7z
— Radio Cymru (@BBCRadioCymru) February 16, 2023