Mae Adwaith yn paratoi i ryddhau eu sengl ddiweddaraf ac yn croesawu gwestai cyfarwydd iawn i ymddangos ar y trac.
‘Addo’ ydy enw’r trac newydd sydd allan ar label Recordiau Libertino ar 3 Tachwedd.
Yn dilyn rhyddhau ‘Bato Mato’, ail albwm Adwaith aeth ymlaen i ennill y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2022, roedd y band o Gaerfyrddin yn awyddus i ddychwelyd i natur amrwd eu sain cynnar.
Mae ‘Addo’, sef cipolwg cyntaf o drydydd albwm y band fydd allan flwyddyn nesaf, yn gweld Adwaith yn mynd yn ôl i’w gwreiddiau gyda thrac agored, adeiladol a llac.
Yn dwyn ysbrydoliaeth gan artistiaid fel Juliana Hatfield a Hole, daeth ‘Addo’ at ei gilydd yn Black Bay Studios yn yr Hebrides, Yr Alban – gyda neb llai na James Dean Bradfield (Manic Street Preachers) yn chwarae gitâr ar y trac.
Er bod y sengl wedi’i ddylanwadu gan felodïau disglair Breeders a Liz Phair, yn delynegol, ‘Addo’ yw un o ganeuon tywyllaf y triawd hyd yma.
“Mae ‘Addo’ yn ymwneud â pherthnasau sy’n eich blino chi” eglura’r band.
“Mae’n ymwneud â gofalu am rywun sy’n hunanddinistriol lle nad yw’n poeni amdanyn nhw ei hunain, a sut mae hynny’n cael effaith ar eich barn chi am y byd a’r bobl o’ch cwmpas.”
Gyda’i gitars llachar a lliwgar, mae’n debygol mai ‘Addo’ fydd anthem ddiweddaraf Adwaith – methu aros i weld hon yn glanio!