‘Pry yn y Gwynt’ ydy enw sengl ddiweddaraf Kim Hon, ac yn debyg iawn i’r band ei hunain, mae’r trac ychydig bach yn wahanol!
Cwta fis ers rhyddhau cynnyrch am y tro cyntaf gyda label recordiau Côsh sef y sengl ddwbl ‘Baseball / Interstellar Helen Keller’, mae cân newydd sbon arall yn dod i foddi’ch clustiau gyda steil unigryw Kim Hon.
Mae’r band yn awyddus i gael albwm allan cyn diwedd yr haf ac mae’r senglau’n saethu allan un ar ôl y llall i ddod a dŵr i ddannedd eu cefnogwr.
Mae cerddoriaeth Kim Hon yn gallu symud yn ddidrafferth rhwng yr ymlaciedig a llyfn, i anrhefn llwyr, ac mae hyn yn wir am y trac yma, sydd hefyd yn neidio o’r Saesneg i’r Gymraeg yn hollol naturiol.
“Noson allan arall yng Nghaernarfon yn cael fy chwythu o un dafarn i’r llall heb ddim math o reolaeth i ba gyfeiriad dwi’n mynd. Fatha ‘Pry yn y Gwynt’” eglura Iwan Fôn, canwr Kim Hon, wrth drafod eu sengl newydd.
“Y paranoia a’r prydferthwch o golli dy ben mewn tre’ sy’n bell o fod yn ddiniwed. Yna ar ddiwedd y noson, yn oriau mân y bora’ pan mae’r gwynt wedi stopio chwythu, mae’r pry bach yn begio i gael cysgu wrth droi a throsi, pendroni a difaru yn begio’r ‘up’ fynd lawr. Llawr llynca fi lawr, lawr, lawr.”
Bydd Kim Hon yn ymddangos yng Ngŵyl Car Gwyllt, Blaenau Ffestiniog ym mis Gorffennaf, gyda lansiad eu halbwm hefyd wrthi’n cael ei drefnu ar gyfer y dyfodol agos.
Mae ‘Pry yn y Gwynt’ allan ar label Recordiau Côsh ers dydd Gwener diwethaf, 19 Mai.