Bydd cyfrol newydd sy’n dogfennu dwy flynedd o fywyd yn y sin gerddoriaeth Gymraeg mewn ffotograffiaeth yn cael ei lansio wythnos nesaf.
‘Circa 21/22’ ydy enw llyfr cyntaf y ffotograffydd Rhys Grail, sydd hefyd yn adnabyddus fel cerddor ac fel aelod o’r band Gwilym.
Fel mae enw’r gyfrol yn awgrymu, mae’n cynnwys lluniau o fandiau ac artistiaid Cymreig wedi eu tynnu’n ystod 2021 ac 2022.
Bydd y llyfr yn cael ei lansio mewn parti arbennig yng nghaffi Braf, Dinas Dinlle ar nos Wener 24 Chwefror gyda’r bandiau Alffa, Y Cledrau a skylrk. yn perfformio.
Bydd arddangosfa o luniau Rhys hefyd i’w gweld yn y digwyddiad.
Talu gwrogaeth
“Fel cerddor fy hun rydw i wedi cael y braint o gneud ffrindiau gyda llawer o fandiau Cymraeg gwych yn ystod fy amser yn chwarae gyda’r band Gwilym” meddai Rhys Grail.
“Y llyfr hwn ydi fy ffordd i o dalu gwrogaeth i’r perthnasau yma dwi wedi’u creu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ogystal â dogfennu a dathlu yr isddiwylliant cyfoethog sydd gan y sin gerddoriaeth Gymraeg i’w gynnig.
“Y gobaith yw y bydd lansiad y llyfr hwn yn gwella fy ngyrfa ffotograffig greadigol ymhellach o fewn y diwydiant cerddoriaeth, a harddangos fy ngwaith ffotograffig tra yn yr un modd hyrwyddo’r sin.”
Mae’r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan gylchgrawn cerddoriaeth Y Selar a gwefan gerddoriaeth Klust a bydd nifer cyfyngedig o gopïau o’r gyfrol newydd ar gael i’w prynu ar y noson lansio.